Llogi Neuadd
Ystafell Gemau

Prif Neuadd

Ystafell Gyfarfod

Mae’r Neuadd Pentref ar gael i’w llogi ar gyfer amrywiaeth enag o ddigwyddiaudau, o ddosbarthiadau, cyfarfodydd a gweithdai i weithgareddau hamdden, digwyddiadau preifat, partïon pen-blwydd, digwyddiadau elusennol a gweithgareddau cymunedol.
P’un a ydych chi’n cynllunio gweithgaredd hwyliog, addysgol, sy’n gysylltiedig â ffitrwydd, neu ddathliad, gallwn ni helpu! Gallwch logi’r Neuadd Fawr, yr Ystafell Gyfarfod, neu’r ddwy gyda’i gilydd am bris gostyngol. Gellir defnyddio’r ddwy ystafell ar wahân neu eu cyfuno trwy agor y palis pren i greu gofod agored mwy o faint.
Mae gan y neuadd ddarpariaeth WiFi, mynedfa hygyrch i gadeiriau olwyn a chyfleusterau toiled hygyrch.
Ar gyfer swyddogaethau, priodasau, a digwyddiadau arbennig gellir trefnu bar ar gais.
Rydym yn cynnig cyfraddau arbennig ar gyfer archebion rheolaidd.
Neuadd Fawr




Mae’r Neuadd Fawr yn faint sylweddol, llawn golau sy’n ddelfrydol ar gyfer ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau. Mae nenfwd uchel, llawr pren, a chynllun hyblyg. Mae’n berffaith ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd, cynulliadau cymdeithasol, perfformiadau, ffeiriau crefftau, partïon, ac yn yblaen.
Mae’r neuadd yn cynnwys:
- Seddau a byrddau (os oes angen)
- Mynediad at gyfleusterau gwneud te a choffi
- Mynedfa hygyrch i gadeiriau olwyn a chyfleusterau toiled hygyrch.
- Gwresogi a goleuadau wedi’u cynnwys yn y ffi llogi
- Addas ar gyfer hyd at 70 o bobl
- Wi-Fi
- Defnyddio’r llwyfan os oes angen
P’un a ydych chi’n cynllunio dosbarth rheolaidd, dathliad arbennig, neu
ddigwyddiad cymunedol, mae’r Neuadd Fawr yn cynnig lle croesawgar, a gofod amlbwrpas i weddu i’ch anghenion.
Ystafell Gyfarfod

Mae’r Ystafell Gyfarfod yn le cyfforddus sy’n ddelfrydol ar gyfer cynilleidfaoedd llai, gweithdai, cyfarfodydd grŵp, a phartïon bach. Yn olau ac yn groesawgar, mae’n cynnig lleoliad sy’n teimlo yn fwy cyfforddus tra’n dal i elwa o holl gyfleusterau’r neuadd.
Mae’r ystafell yn cynnwys:
- Seddau a byrddau (os oes angen)
- WiFi
- Mynediad i gyfleusterau gwneud te a choffi
- Gwresogi a goleuadau wedi’u cynnwys yn y ffi llogi
- Addas ar gyfer hyd at 50 o bobl
- Mynedfa hygyrch i gadeiriau olwyn a chyfleusterau toiled hygyrch
Perffaith ar gyfer grwpiau cymunedol, cyfarfodydd, sesiynau crefft, partïon bach neu ddigwyddiadau hyfforddi.
Ystafell Gemau

Wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf, mae’r Ystafell Gemau yn lle perffaith i ymlacio, cymdeithasu a mwynhau ychydig o gystadleuaeth gyfeillgar. Mae’r ystafell yn cynnwys bwrdd pwl, ardal ddarts bwrpasol gyda chylch goleuo a bwrdd sgorio digidol, ardal eistedd, ac amrywiaeth o gemau bwrdd.
Gellir archebu’r Ystafell Gemau at ddefnydd unigryw gan eich teulu neu’ch grŵp mewn slotiau o 30 munud. Fel arall, gallwch archebu’r bwrdd pwl neu’r ardal ddarts ar wahân.
Mae’r ystafell yn cynnwys:
- Bwrdd pwl (£1 y gêm – yn gweithredu gyda darnau arian)
- Bwrdd darts gyda chylch goleuo a bwrdd sgorio digidol (20c am 12 munud neu £1 am 1 awr – yn gweithredu gyda darnau arian)
- Bwrdd a stolion
- Dewis o gemau bwrdd
Sylwer:
- Ceir mynediad i’r Ystafell Gemau drwy risiau cul, ac felly nid yw’n addas i bobl â symudedd cyfyngedig.
- Uchafswm nifer y bobl a ganiateir yn yr ystafell ar unrhyw un adeg yw 20.
- Rhaid i bob archeb gael ei gwneud gan berson 18 oed neu’n hŷn.
- Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn drwy gydol cyfnod yr archeb.
Archebwch Ar-lein